Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
27 Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13488
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1, 4 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan fwyaf o 2024?
Am 15.45, cododd Darren Millar Bwynt o Drefn ynghylch y ffigurau y gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyfeirio atynt yn ei hymateb i’r Cwestiwn Amserol gan Paul Davies.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gwnaeth Russell George ddatganiad am – Diwrnod Fferylliaeth y Byd (25 Medi).
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am – Clwb Ifor Bach yn 40.
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE
Dechreuodd yr eitem am 15.49
NDM8363 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Ni chynigiwyd gwelliant 1.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8274 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
3 |
12 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
7 Dadl ar ddeiseb P-06-1332 - Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod
Dechreuodd yr eitem am 16.30
NDM8359 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod’ a gasglodd 11,306 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8361 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.
3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.
4. Yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r gymuned leol; a
b) cyflwyno Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd.
Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
Cefnogwyr
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:
a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;
b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac
c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
16 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8361 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.
3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.
4. Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:
a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;
b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac
c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.
Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 17.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8362 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
42 |
58 |
Gwrthodwyd y cynnig.
10 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.28
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.34
NDM8360 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Y 'Draen Dawn' yng Nghymru: Heriau ac Atebion
Daeth y cyfarfod i ben am 18.59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Hydref 2023